'Mwy o ddeintyddion yn gadael' o dan y drefn newydd

- Cyhoeddwyd
Mae 'na rybudd y bydd "mwy o ddeintyddion yn gadael" wrth i'r llywodraeth ystyried newidiadau i wasanaethau deintyddol yng Nghymru.
Yn sgil y newidiadau gallai cleifion gael eu symud o un deintydd i'r llall.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad i geisio sicrhau bod mwy o bobl yn cael triniaeth ar y Gwasanaeth Iechyd.
Fe allai hynny olygu y bydd cleifion, sy'n cael eu hystyried yn iach, gael cynnig triniaeth mewn unrhyw ddeintyddfa o fewn eu bwrdd iechyd lleol ac y bydd apwyntiadau rheolaidd yn cael eu cynnig yn llai aml.
Gallai hynny olygu mai bob deunaw mis i ddwy flynedd y bydd rhai pobl yn gweld deintydd.
Beth sy'n cael ei gynnig?
Dan y drefn sy'n cael ei hystyried bydd cleifion dros 18 mlwydd oed yn cael eu rhoi ar restr aros ganolog – "y Porth Mynediad Deintyddol" a bydd deintyddfa yn cael ei neilltuo iddyn nhw unrhyw le o fewn eu bwrdd iechyd.
Os bydd angen triniaeth ar y claf, byddan nhw'n aros gyda'r un ddeintyddfa hyd nes bod y driniaeth wedi ei chwblhau.
Pan fyddan nhw'n iach fe fyddan nhw'n dychwelyd i'r porth canolog ac yn cael cynnig apwyntiad bob 18-24 mis.
Bydd plant yn cael eu trin o dan y cynllun newydd ond byddan nhw'n aros gyda'r ddeintyddfa gyntaf fydd yn cael ei neilltuo iddyn nhw.
Bydd costau triniaethau yn newid hefyd gydag apwyntiadau rheolaidd yn codi o £20 i £24.75 a phris coron yn gostwng o £260 i £239.15.
Mae Llywodraeth Cymru'n gobeithio y bydd y newidiadau yn golygu bod mwy o bobl yn llwyddo i weld deintydd pan mae angen apwyntiad arnyn nhw ac y bydd deintyddion preifat yn cael eu denu yn ôl i wneud gwaith gwasanaeth iechyd gan gynyddu'r ddarpariaeth.
Mae Cymdeithas Ddeintyddol Prydain (BDA) yn rhybuddio taw'r gwrthwyneb fydd yn digwydd gyda mwy o gleifion yn cael eu gorfodi i dalu am wasanaeth preifat.

Mae Aled Clement wedi rhoi'r gorau i weithio i'r gwasanaeth iechyd ers dwy flynedd
Mae Aled Clement, deintydd preifat yn Cross Hands yn poeni na fydd deintyddion eisiau gweithio o dan y drefn newydd.
Fe wnaeth Mr Clement roi'r gorau i wneud gwaith i'r Gwasanaeth Iechyd ddwy flynedd yn ôl.
Dywedodd: "Fi'n credu bydd mwy yn gadael, fi'n credu bydd mwy a mwy o gleifion yn mynd yn breifat.
"Os ma' nhw'n arfer â gweld un deintydd maen nhw'n fwy na hapus i gario mlaen i weld yr un deintydd ac fe ewn nhw'n breifat gyda'r deintydd os taw dyna beth ma'r deintydd yn penderfynu gwneud.
"Fy marn i yw hwn – dyw'r llywodraeth ddim isie talu am ddeintyddiaeth a does neb digon dewr i weud 'so ni'n talu amdano fe ragor'.
"Ma' nhw'n mynd i roi contract mas sy' mor rhwystredig ac yn annerbyniol i ddeintyddion, bydd mwy a mwy yn gadel a byddan nhw'n gallu beio'r deintyddion wedyn yn hytrach na'u hunain.
"Bydd y costau i iechyd yn waeth. Byddwn ni'n gweld mwy o bobl mewn ysbytai ac adrannau brys gyda phroblemau deintyddol fi'n siŵr."
- Cyhoeddwyd27 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Chwefror
Mae'r cynigion yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus sydd ar agor tan19 Mehefin.
Mae'r ddogfen yn egluro na fydd unrhywbeth yn newid i gleifion sydd yng nghanol triniaeth ac mai "naratif ffug" yw bod archwiliadau bob chwe mis yn angenrheidiol i bawb.
Bydd rhoi archwiliad i bobl â dannedd iach yn llai aml, yn agor mynediad i eraill, meddai'r ddogfen.
Mae canllawiau Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn dweud y dylai'r amser rhwng archwiliadau "gael ei bennu'n benodol ar gyfer pob claf" a dylai'r cyfnod hiraf rhwng apwyntiadau ar gyfer oedolion fod yn 18-24 mis.
Ond mae'r corff sy'n cynrychioli'r proffesiwn, y BDA, yn dweud eu bod nhw'n poeni mai mynd o ddrwg i waeth fydd gwasanaethau deintyddol o dan y drefn newydd.

Dywed Paul Mc Carthy na fyddai'n hapus i orfod symud deintyddfa
Mae arolwg o'r proffesiwn yn awgrymu bod yna wrthwynebiad cryf i'r newidiadau gyda deintyddion yn poeni am effaith gweld cleifion yn llai aml a pheidio trin yr un cleifion.
Yn ôl yr arolwg bydd tri chwarter y deintyddion gafodd eu holi yn gwneud llai o waith gwasanaeth iechyd os daw'r newidiadau i rym.
Mae 'na ymateb cymysg ymhlith cleifion.
"Fydden i ddim yn hapus symud o ddeintydd i ddeintydd," meddai Paul Mc Carthy o Gaerdydd.
"Dwi di bod yn dod i'r un ddeintyddfa ers 30 mlynedd a dwi'n gyfarwydd â fe."
"Dwi'n meddwl ei fod e'n beth da," meddai Justin Rees o'r Barri.
"Does dim apwyntiadau ar gael ar hyn o bryd."
"Bydden i ychydig yn drist i beidio gweld fy neintydd arferol," meddai Robyn Weldon, "ond dwi'n meddwl y bydde fe'n gret achos bydde fe'n haws i weld deintydd."

Roedd Justin, o'r Barri, o'r farn bod y newid yn "beth da"
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth BBC Cymru eu bod nhw wedi bod yn ymgynghori gyda'r proffesiwn ers misoedd.
"Pwrpas y cytundeb newydd yw sicrhau fod e'n haws i gleifion sydd ag anghenion deintyddol i gael mynediad at y gwasanaeth iechyd.
"Mae'r cytundeb yn decach ac yn fwy atyniadol i ddeintyddion - i'w denu nhw i neud fwy o waith ar y gwasanaeth iechyd.
"Ma'r contract newydd yn adlewyrchu beth ma' deintyddion wedi bod yn galw amdano fe.
"Ma'r contract wedi bod yn broses o negodi am dros fwy na blwyddyn gyda'r BDA."
Ychwanegodd: "Rwy'n sicr o ran cleifion, o ran deintyddion, o ran y gwasanaeth iechyd, o ran ein rôl ni fel llywodraeth bod pob un ohonom ni wedi gweld cynnydd yn y contract 'ma felly rwy'n edrych mlaen i weld y canlyniad o ran yr ymgynghoriad ac yn edrych mlaen yn arw iawn i gael y cytundeb newydd yn ei le yn y flwyddyn newydd."
Dywedodd Plaid Cymru nad yw'r newidiadau arfaethedig "yn gwneud dim i fynd i'r afael â'r problemau gyda'r contractau presennol a gallent wthio mwy o ddeintyddion y GIG i'r sector preifat".
Dywedodd y Ceidwadwyr: "Nid yw'r contract presennol wedi'i drafod yn iawn gyda Chymdeithas Ddeintyddol Prydain, ac mae angen i Lywodraeth Cymru ddychwelyd at y bwrdd ar frys a gweithio gyda nhw i ddatblygu contract sy'n gweithio i gleifion a deintyddion fel ei gilydd."
Gwaith gohebu ychwanegol gan Lola Mayor a Sanjana Idnani