/** * https://gist.github.com/samthor/64b114e4a4f539915a95b91ffd340acc */ (function() { var check = document.createElement('script'); if (!('noModule' in check) && 'onbeforeload' in check) { var = false; document.addEventListener('beforeload', function(e) { if (e.target === check) { = true; } else if (!e.target.hasAttribute('nomodule') || !) { return; } e.preventDefault(); }, true); check.type = 'module'; check.src = '.'; document.head.appendChild(check); check.remove(); } }());

Cedol Dafydd: Yr hogyn o Bentir sy'n rhwyfo at fedalau aur

Cedol Dafydd (dde) gydda gweddill ei dîm (Callum Dixon, Matt Haywood a Rory Harris)Ffynhonnell y llun, Pencampwriaeth Rhwyfo Ewrop
Disgrifiad o’r llun,

Cedol Dafydd (dde) gydda gweddill ei dîm (Callum Dixon, Matt Haywood a Rory Harris)

  • Cyhoeddwyd

Mae Cedol Dafydd o Bentir ger Bangor newydd gipio'r fedal aur ym Mhencampwriaeth Rhwyfo Ewrop yn Plodiv, Bwlgaria ar 1 Mehefin.

Roedd Cedol yn un o'r pedwar rhwyfwr a sicrhaodd fod tîm Prydain yn dod adref gyda'r fedal. Dyma'r tro cyntaf i dîm Prydain gipio'r wobr aur yng nghategori pedwarawd y dynion ym Mhencampwriaeth Ewrop.

Dywedodd Cedol ar raglen Dros Ginio, BBC Radio Cymru: "Dyma pencampwriaeth cynta' fi yn rhyngwladol, oedd o bach yn swreal, nath o gymryd hir iawn i sincio mewn bo' fi'n rhan o'r tîm sydd wedi curo medal aur gynta dan adran y quadruple sculls i Brydain.

"Dwi mor prowd o'r hogia' a fy hun. Dwi 'di gweithio ar gyfer y ras yma dros y gaea' hyd at yr wythnosa dwytha."

Cyfnod 'llawn rasys' o'i flaen

Ar ddechrau ei daith gyda thîm rhwyfo Prydain llynedd, dywedodd Cedol wrth Cymru Fyw mai dim ond ers 2021 mae wedi bod yn rhwyfo, a hynny ar ôl canfod y gamp tra'n y brifysgol yng Nghaerfaddon.

Flwyddyn yn ddiweddarach, oedd Cedol yn hyderus y byddai ei dîm o bedwar yn cipio'r fedal aur?

"Oeddwn, 'sa chi'n gofyn i unrhyw rwyfwr proffesiynol, mae'r hyder sydd ganddyn nhw yn fwy na ddim byd dwi erioed wedi gweld o'r blaen.

"O ran y tîm, oeddan ni'n gwybod pa mor dda oeddan ni i gymharu efo gweddill y byd, 'dan i'n gwybod pa safon 'dan i'n gorfod cyrraedd ym Mhrydain."

Ond does dim amser i Cedol ddathlu'r llwyddiant ac i eistedd ar ei rwyfau. Mae'n galw'r cyfnod nesaf sydd o'i flaen yn gyfnod o "un ras ar ôl y llall" gan y bydd yn hedfan i'r Eidal i gystadlu yng Nghwpan Rhwyfo'r Byd rhwng 13-15 Mehefin.

Ei obaith wedyn yw y bydd yn cynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Rhwyfo y Byd yn Shanghai ym mis Medi.

Croesi'r llinell derfynFfynhonnell y llun, Pencampwriaeth Rhwyfo Ewrop
Disgrifiad o’r llun,

Croesi'r llinell derfyn

Ond sut mae hogyn o Bentir yn datblygu i fod yn rhwyfwr proffesiynol?

"Cwestiwn da," meddai. "Dwi'm yn siŵr fy hun.

"Be' weithiodd i fi oedd o'n i'n rhedeg traws-gwlad a rhedeg mynydd pan o'n i'n llai ac yn nofiwr felly dwi wedi bod yn 'neud hynna ers dwi'n cofio am fy mhlentyndod i gyd.

"Pam wnes i gyrraedd Prifysgol Caerfaddon wnes i ddisgyn allan o gariad efo rhedeg a nofio ac isio rwbath newydd i ailgymhellu fy hun i gadw'n ffit eto.

"Ar ôl gweld stondin rhwyfo yn ystod fy wythnos gynta' yn y brifysgol a meddwl, ocê, mae yna chwaraeon gwahanol dwi erioed 'di weld o'r blaen.

"Does yna ddim lot o rwyfo yng ngogledd Cymru o gwbl a wnes i fynd 'pam lai, gawn ni weld be' sy'n digwydd'.

Gwaith caled yn talu ffordd

"Oherwydd Covid a'r cyfnodau clo nath 'na ddim byd ddigwydd am flwyddyn a hanner a wedyn diwadd trydydd flwyddyn yn y brifysgol wnes i ymuno efo rhaglen o'r enw World Class Start a wedyn ers hynna dwi wedi yn rhwyfo yn fwy difrifiol. Mae o'n swydd i fi rŵan a mae bywyd fi o gwmpas rhwyfo erbyn hyn.

"Tasa chi wedi deud wrtha i ar ddechrau'r brifysgol bo' fi'n mynd i rwyfo i Brydain ac ennill Pencampwriaethau Ewrop faswn i'n deud bo' chi ddim yn gall!"

Er hynny mae Cedol yn cyfaddef bod ei ddawn fel nofiwr a rhedwr cryf wedi bod o gymorth wrth iddo ddatblygu fel rhwyfwr:

"O ran ffitrwydd a paratoi rasio a gwybod sut mae delio efo stress rasio a bod yn nyrfys mae hynny wedi helpu lot.

"Y gamp oedd dysgu y dechneg o rwyfo. Pan o'n i yn y brifysgol aeth lot o foreau yn gynnar ym mis Rhagfyr i ddisgyn i mewn i'r afon ond mae'n rhan o'r siwrne ti'n gorfod ei 'neud cyn gallu cymryd rhwyfo fwy o ddifrif."

DathluFfynhonnell y llun, Pencampwriaeth Rhwyfo Ewrop
Disgrifiad o’r llun,

Derbyn y fedal aur

Dywed y rhwyfwr 24 oed mai troi yn rhwyfwr proffesiynol oedd "y penderfyniad hawsa'" iddo erioed ei wneud.

"Dwi wastad wedi bod isio bod yn athletwr proffesiynol hyd yn oed pan o'n i'n rhedag, nofio a hyd yn oed pan o'n i'n ifancach yn 'neud rygbi tag efo Clwb Rygbi Bangor neu'n chwarae pêl-droed i Glwb Penrhosgarnedd. Wedyn gweld Gemau Olympaidd 2012 yn Llundain a meddwl dyna dwi isio 'neud wan, dwi isio bod yn olympian a dyna fo."

Yn ôl Cedol gwaith caled a ymarfer sydd wedi galluogi iddo gyrraedd ei nod.

Meddai: "Dwi wedi gweithio mor galad i gyrradd lle lle dwi'n gallu ffocysu mond ar y rhwyfo a mae o 'di talu 'nôl mewn ffordd well nag o'n i'n gweld yn dod.

"O ran trefn ymarfer dwi'n cychwyn am 7 a gorffen am 4 chwe gwaith yr wythnos tra 'dan ni ym Mhrydain ond tra 'dan ni ffwrdd yn rwla fel Portiwgal a Sbaen mewn camps ymarfar rydan ni'n ymarfar fwy intense.

"Hyd yn oed pan o'n i'n Ysgol Garnedd a Tryfan o'n i'n nofio dwywaith y diwrnod, cyn yr ysgol ac ar ôl felly i ddweud y gwir mae'n eitha' hawdd rŵan. Dwi'm yn gorfod poeni am ysgol a brifysgol, dim ond ymarfer llawn amsar."

Gobeithion

Pa mor ffyddiog yw Cedol y bydd yn cael ei ddewis i gynrychioli Prydain yn nhîm pedwarawd y dynion ym Mhencampwriaeth y Byd yn Shanghai rhwng 21-28 o Fedi?

"Mae'n anodd deud yn bendant, faswn i'n eitha surprised os fasa 'na newid i'r tîm jest am y ffordd nath pencampwriaeth Ewrop fynd. Mae lot o rasys i fynd cyn hynna er mwyn gallu profi bo' ni'n gallu ailadrodd be nathon ni.

"Faswn i yn licio mynd yn yr un pedwar, ond fedrai fynd mewn unrhyw gwch efo unrhyw berson, dwin hapus iawn i rasio efo rywun."

Ond fel un a gafodd ei ysbrydoli i fod yn athletwr proffesiynol gydag ymweliad y Gemau Olympaidd i Lundain yn 2012, ei freuddwyd fawr yw cyrraedd Gemau Olympaidd Los Angeles yn 2028:

"Y nod yn y tymor hir ydi mynd am y Gemau Olympaidd nesa'. Dyna'r bwriad a dyna ydi'r freuddwyd.

"Mae rasys y flwyddyn yma yn bwysig iawn ond ar ddiwedd y dydd LA 2028 ydi'r nod. Ar ôl hynna gawn ni weld."

Medal Aur i'r rhwyfwr Cedol Dafydd

Dros Ginio

Pynciau cysylltiedig