Gemau fideo â 'mwy o botensial' i gyflwyno'r Gymraeg yn fyd-eang

Mae Osian Williams o Bontypridd yn berchennog ac yn gyfarwyddwr cwmni gemau COPA
- Cyhoeddwyd
Mae gan gwmnïau gemau cyfrifiadurol "mwy o botensial bellach i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn cael ei chyflwyno i gynulleidfa fyd-eang", medd Cymro sy'n berchennog ac yn gyfarwyddwr cwmni gemau COPA.
Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd Osian Williams fod y Gymraeg yn "rhywbeth ni rili eisiau rhoi yn ein gemau ni - mewn ffordd sy'n galluogi i bobl tu allan i Gymru i gael cyflwyniad i'r iaith".
"Ti'n gweld Cymraeg mewn gemau yn barod," medd Mr Williams, gan ychwanegu fod delweddau Cymraeg a diwylliant Cymreig eisoes yn cael eu cynnwys ynddyn nhw.
Ond neges Mr Williams oedd bod potensial hyd yn oed yn fwy i lwyfannu'r Gymraeg yn fyd-eang, a'i bod hi'n "amser rili cool i weld beth sy'n digwydd 'da'r potensial 'na."

Mae cwmni gemau COPA yn datblygu gêm heddlu 'The Department / Trosedd' - wedi'i lleoli mewn tref ddychmygol yn ne Cymru
Mae'r diwydiant yn "tyfu'n gloi iawn yng Nghymru" meddai Mr Williams a dywedodd eu bod nhw fel cwmni yn teimlo'n ffodus i fod yn rhan ohono.
Un o'r elfennau sy'n bwysig ar gyfer y diwydiant gemau, meddai, ydy tuedd pobl i chwarae gemau cyfrifiadurol tra'n symud a thu allan i'r tŷ.
Mae Osian Williams yn credu fod y duedd yma "wedi mynd lan mwy nawr yn y blynyddoedd diwetha'" a bod hynny'n gyfrifol am lwyddiant y consolau cludadwy.
"Dros y blynyddoedd diwetha' ni obviously wedi bod yn stuck yn y tŷ gyda popeth sydd wedi digwydd [yn y cyfnod clo], ond nawr ma' lot o bobl ar y move – ond dal eisiau chwarae gemau," meddai.
Dywedodd Mr Williams fod llwyddiant y diwydiant yng Nghymru yn ddibynnol ar "gefnogaeth a dealltwriaeth y llywodraeth fod gemau yn bwysig fel busnes a diwydiant".
"Mae'r diwydiant gemau yn fwy na ffilm a cherddoriaeth wedi'u cyfuno," meddai.

Mae dros 17 miliwn o bobl wedi gwylio clipiau ar y we gan COPA, yn dysgu pobl o gwmpas y byd ar sut i greu gemau
Yn ogystal â bod yn "gamer enfawr" ei hun, dywedodd Mr Williams fod cwmni COPA yn animeiddio i gwsmeriaid a bellach yn creu gemau eu hunain.
Mae'r cwmni wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, meddai Mr Williams, ar gyfer gêm newydd y maen nhw'n ei ddatblygu.
"Mae Llywodraeth Cymru 'di investo £850,000 mewn i gwmnïau gemau - chwech o ni sydd wedi cael e'. Mae lot o gyffro yn y diwydiant ar hyn o bryd."

Dechreuodd COPA wneud gemau cyfrifiadurol yn ystod y cyfnod clo
Esboniodd Mr Williams mai gêm heddlu ydy'r prosiect sydd ganddyn nhw, wedi'i lleoli mewn tref ddychmygol yn ne Cymru.
Wrth drafod dyfodol y diwydiant gemau yng Nghymru a'r DU, dywedodd fod rhywun yn draddodiadol yn "meddwl am Brighton, Leamington Spa neu'r Alban".
"Ond mae pobl yn dechrau meddwl am Gaerdydd nawr - sydd yn awsome," meddai.
"O'n i'n San Francisco cwpl o fisoedd yn ôl yn y British Consulate, ac o'n nhw'n gweud: 'Cardiff, the next hub of gaming' - dylech chi wedi gweld wyneb pawb arall yn edrych arna' i!"
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd22 Awst 2023
- Cyhoeddwyd28 Ebrill