Llun yn dangos Pont y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol gyda pharc gwyrdd o dan y bont. Mae'n ddiwrnod braf gydag awyr las ac un cwmwl gwyn.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc Glan yr Afon yng Nghasnewydd drws nesaf i Bont y Ffordd Ddosbarthu Ddeheuol - un o ffyrdd brysuraf y ddinas

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i gwblhau arolwg o orchudd canopi mewn ardaloedd trefol.

Cafodd mapiau o'r gorchudd canopi mewn trefi a dinasoedd eu creu yn defnyddio lluniau a gafodd eu tynnu o'r awyr.

Cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru ganfyddiadau am orchudd coed trefol yn 2016.

  • Gorchudd canopi trefol Caerdydd - 15.4%

  • Gorchudd canopi trefol Wrecsam - 17.4%

  • Gorchudd canopi trefol Abertawe - 17.4%

  • Gorchudd canopi trefol Casnewydd - 18%

Mae Casnewydd yn amcangyfrif bod ei choedwig drefol bresennol werth £2.2m y flwyddyn i'r ddinas ac yn storio 76,000 tunnell o garbon, sydd werth mwy na £17m.

Bydd y cyngor yn tyfu coed ar ei dir ei hun, ond yn gobeithio y bydd datblygwyr preifat a pherchnogion tir yn gwneud yr un peth i ychwanegu at orchudd canopi'r ddinas.

Llun o Daniel yn sefyll ar lwybr gyda gwair a choed o'i gwmpas. Mae'n gwisgo crys-t llwyd ac yn gwisgo bag ar ei gefn. Mae'n ddiwrnod braf ond cymylau yn yr awyr.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Daniel Key yn byw yng Nghasnewydd ac yn teimlo y byddai'r ddinas yn elwa o gael hwb gwyrdd

Dywedodd Daniel Key, sy'n 37 ac yn byw yng Nghasnewydd, y "byddai'n hyfryd" pe bai chwarter y ddinas dan orchudd canopi coed".

"Mae'n ddinas adeiledig iawn - sydd ddim yn y cyflwr gorau ar hyn o bryd, gyda llawer o dai gwag neu fusnesau wedi mynd," meddai.

"Mae llawer o geir yma, a byddai'n braf cael mwy o goed er mwyn cael aer glanach."

Ychwanegodd: "Cyn belled â bo' nhw'n meddwl am swyddi hefyd, yn lleol, byddai'n cefnogi hyn."

'Ysgyfaint gwyrdd'

Mae coed stryd ymhlith y seilwaith gwyrdd pwysicaf, yn ôl Joanne Gossage, sy'n dweud eu bod nhw fel "ysgyfaint gwyrdd uwchben pennau pobl".

Mae mwy na thraean o'r holl goed yn y ddinas mewn ardaloedd preswyl - a'r rhywogaethau mwyaf cyffredin yw cypreswydden Leyland, Bedw a'r Ddraenen Wen.

Dywedodd Ms Gossage y bydd cynyddu gorchudd canopi yn helpu i gadw tymheredd y ddinas i lawr, atal llifogydd, yn gwella bioamrywiaeth ac yn helpu iechyd a lles pobl.

"Rydym yn gwneud hyn gyda nifer fach iawn o adnoddau yn fewnol," meddai.

"Dydyn ni ddim yn gofyn am lawer o gyllideb y cyngor gan ein bod yn gweithredu'n ddyfeisgar ac yn bod yn anturus, gan chwilio am arian y tu allan i'n cyllideb ein hunain."

Mae'r cyngor yn bwriadu agor ymgynghoriad cyhoeddus ar ei Strategaeth Adfywio Gorchudd Coed, gyda'r nod o orchuddio chwarter y ddinas erbyn 2035.

Pynciau cysylltiedig