David TC Davies yn hapus i adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynolwedi ei gyhoeddi 20:16 Amser Safonol Greenwich+1 21 Mehefin 2024
Ar fewnfudo, mae David TC Davies yn dweud y byddai'n hapus i adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol pe bai'n rhwystro cynllun Rwanda y Ceidwadwyr.
“Byddwn yn ei adael yn llwyr,” meddai.
“Os yw llys tramor yn ein rhwystro rhag gwneud rhywbeth yr ydym ni fel senedd sofran a etholwyd yn ddemocrataidd wedi dewis ei wneud, yna ie, wrth gwrs.
“Mae gennym ni bob hawl i weithredu polisi mewnfudo y mae’r wlad hon wedi pleidleisio drosto.”
Fodd bynnag, ychwanega: "Bydd wastad angen, ac rydym yn croesawu, mudo cyfreithlon i bobl â sgiliau arbenigol."