"Mae'n frwydr gyson - ry'n ni'n gwybod bod 'na lot o arian wedi cael ei wario, ond dyma ni yn yr un sefyllfa bum mlynedd yn ddiweddarach, felly a gafodd e'i wario'n gall"Staff Dwr Cymru mewn siacedi oren yn llwytho ceir a poteli dwr mewn maes parcio archfarchnad yn Nhreorci. " loading="lazy" src="https://image.staticox.com/?url=https%3A%2F%2Fichef.bbci.co.uk%2Face%2Fstandard%2F3840%2Fsprodpb%2F6751%2Flive%2F4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg" srcSet="https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/240/sprodpb/6751/live/4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg 240w, https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/320/sprodpb/6751/live/4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg 320w, https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/480/sprodpb/6751/live/4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg 480w, https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/sprodpb/6751/live/4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg 624w, https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/800/sprodpb/6751/live/4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg 800w, https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/sprodpb/6751/live/4cbc7320-eed8-11ef-b7c5-c772dd3549de.jpg 976w" width="3840" height="2160" class="ssrcss-11yxrdo-Image edrdn950"/>
Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i filoedd o bobl ferwi eu dŵr tap am gyfnod ar ôl i safle trin dŵr uwch Treherbert, Rhondda Cynon Taf ddioddef llifogydd yn ystod Storm Bert

Roedd 'na gryn drafodaeth yn dilyn Storm Bert am faint o rybudd gafodd ei roi gan y Swyddfa Dywydd a Chyfoeth Naturiol Cymru.

Mewn datganiad dywedodd y Swyddfa Dywydd eu bod yn "croesawu'r cyfle i drafod effaith y stormydd diweddar" gyda'r pwyllgor amgylchedd.

"Ry'n ni'n cymryd ein cyfrifoldeb i rybuddio am dywydd gwael yn y DU yn ddifrifol iawn, a fyddwn ni wastad yn esblygu ein gwaith ac yn gweithio hyd yn oed yn fwy clos gyda phartneriaid i sicrhau ein bod yn darparu'r wybodaeth orau i gadw pobl yn ddiogel."

'Gwneud ein gorau i reoli'r risg'

Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Rhondda Cynon Taf eu bod wedi gwario dros £100m ar atal llifogydd ers Storm Dennis yn 2020.

Roedd hyn, meddai'r cyngor, wedi lleihau'r risg i tua 2,269 o eiddo yn ystod Storm Bert.

Dywedodd Jeremy Parr, sy'n gyfrifol am lifogydd yng Nghyfoeth Naturiol Cymru, bod staff yr asiantaeth yn gweithio "ddydd a nos i wneud ein gorau i reoli'r risg o lifogydd".

Cyn storm Bert roedd y corff wedi rhybuddio bod "llifogydd sylweddol yn bosib ar draws Cymru", gan annog pobl i baratoi.

Ond yn dilyn adolygiad, mae CNC wedi lleihau'r trothwy y maen rhaid i'r Afon Taf ei gyrraedd ger Pontypridd cyn cyflwyno rhybudd llifogydd yno.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi darparu £75m ar gyfer gwaith atal llifogydd eleni, a fyddai'n gwarchod mwy na 45,000 o gartrefi.

Pynciau cysylltiedig